Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 18 Gorffennaf 2017
Amser: 08.30 -
08.56
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Jane Hutt AC Paul Davies AC Rhun ap Iorwerth AC Gareth Bennett AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Helen Carey, Llywodraeth Cymru Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd |
Cafwyd ymddiheuriadau gan y Dirprwy Lywydd.
Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Dywedodd Jane Hutt wrth y Pwyllgor fod datganiad gan y Prif Weinidog (60 munud) wedi ei dynnu oddi ar agenda heddiw; ac y bydd y cynigion a ganlyn yn cael eu cynnwys yn ei le. Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes mai’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwelliannau yw 1pm heddiw.
- Cynnig i atal y Rheolau Sefydlog er mwyn medru cynnal dadl ar yr eitem nesaf (5 munud)
- Dadl: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (60 munud)
· Dywedodd Jane Hutt wrth y Pwyllgor fod datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith: Datblygu Banc Cymru (45 munud) wedi’i ychwanegu at agenda heddiw.
· Byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 4 Hydref 2016 -
· Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ystyried newid Rheol Sefydlog drafft a fyddai'n rhoi disgresiwn i’r Pwyllgor Busnes mewn perthynas â holl Filiau’r Pwyllgor i benderfynu a fyddai’n briodol cyfeirio Bil at bwyllgor ar gyfer Cyfnod 1 ai peidio. Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn cyflwyno Rheolau Sefydlog drafft ym mis Medi, gan ei gwneud yn bosibl rhoi’r cynigion gerbron y Cynulliad cyn cyflwyno'r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a ddisgwylir ym mis Hydref.
Nododd y Rheolwyr Busnes y papur a gofynnodd am bapur cwmpasu ar gynnal adolygiad ehangach o’r Rheolau Sefydlog yn yr hydref, o bosibl.
· Nododd y Rheolwyr Busnes y papur. Dywedodd Arweinydd y Tŷ y byddai'r Llywodraeth yn cyflwyno’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn ystod toriad yr haf, ac y byddai ystyriaeth bellach yn cael ei rhoi i system rhybudd cynnar ar gyfer offerynnau statudol.
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyfeirio'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol at y Pwyllgor Materion allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, ac y bydd pob pwyllgor yn cael gwybod am y Cynnig rhag ofn y byddent am ei drafod.
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol
Yn dilyn y cyfarfod yr wythnos diwethaf pan gytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio’r Memorandwm ar y Bil Canllawiau a Hawliadau Ariannol at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd i’w gyfeirio hefyd at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, gyda'r un dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad.